Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 15 Mawrth 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4255


58(v2)

<AI1>

Cofnod y Trafodion

Gweld Cofnod y Trafodion

 

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Dechreuodd yr eitem am 14.17

 

Gofynnwyd y cwestiwn.

 

</AI3>

<AI4>

3       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 14.20

 

Gwnaeth Hannah Blythyn ddatganiad am Fis Canser yr Ofari.

 

Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad am Fiosffer Bro Ddyfi.

 

</AI4>

<AI5>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ynghylch Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 14.23


Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6249 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Dai Lloyd AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

28

53

Gwrthodwyd y cynnig.

 

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.10

NDM6258 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2017.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 8 Mawrth 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI6>

<AI7>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.09

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6257 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn methu o ran pobl Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnwys ar ddiwedd y pwynt:

'a bod ei methiannau yn cael eu cymhlethu gan weithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

2

39

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

 

</AI7>

<AI8>

7       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.17

 

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.20

 

NDM6256 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
 
Dinas Fach, Cyfle Mawr Unigryw - Cais Tyddewi i fod yn Ddinas Ddiwylliant y DU.

 

</AI9>

<AI10>

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.36

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Mawrth 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>